• Pa heriau y mae’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hachosi i ddarpariaeth awdurdodau lleol o ran y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

 

Ni all UCAC weld y bydd y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn codi heriau pellach o ran dapariaeth awdurdodau lleol o ran y CSCA ar hyn o bryd.

 

Yn amlwg, mae’r gostyngiad yn creu mwy o gur pen o ran yr heriau sydd eisoes yn wybyddus.

 

Mae ansicrwydd y data ynghylch niferoedd a diffyg ymwybyddiaeth posib rhieni o lefel Cymraeg eu plant yn gwneud cynllunio’n anoddach. Fodd bynnag, mae’r tebygolrwydd o awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau yn y CSGA wrth ystyried y niferoedd sydd wedi eu nodi yn y cyfrifiad yn is.

 

Mae’n debygol felly, bod angen system monitro cynnydd cadarn iawn o ran y CSGA fel bod modd ymateb yn syth os oes unrhyw broblem. Efallai yn wir, bod gofyn am fwy o ymyrraeth gan y Llywodraeth yn hyn o beth, a bod gofyn I’r Llywodraeth ddisgwyl camay mwy sicr o ran addysg Gymraeg, gan orfodi lle bo galw.

 

Rhaid hefyd bod yn onest ynghylch cynnydd a sicrhau safon benodol, gan ddarparu cymorth dwysach os oes angen.  Er mwyn gwneud hynny, bydd angen sicrhau’r capasiti i gynnig cymorth dwysach. 

 

• Pa heriau sydd o'n blaenau wrth gynllunio a datblygu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng ngoleuni data y Cyfrifiad, ac yn fwy penodol, yr her o sicrhau bod disgyblion yn y sector cyfrwng Saesneg yn rhugl wrth iddynt adael yr ysgol?

 

Er bod UCAC yn cydnabod bod gweithdrefnau CSGA wedi gwella, mae’r cwestiwn o’u heffeithiolrwydd yn gyffredinol yn aros. Hebddynt, efallai y byddwn wedi gweld dirywiad mwy o ran y data. Fodd bynnag, efallai ei fod yn amser i ni wynebu’r gwirionedd a cheisio ymateb o ddifri I’r her a bod Llywodraeth yn gosod disgwyliadau pendant a monitro.

 

Efallai hefyd bod angen ystyried disgwyl cyfundrefn tebyg igyfundrefn Gwynedd mewn mwy o siroedd.

Mae angen sicrhau  fod disgwyliadau uchel o ran y sector cyfrwng Saesneg, gan fynnu bod addysg yn adlewyrchu’r ffaith bod gwersi Cymraeg yn cael eu darparu o oed cynnar iawn. Mae gofyn newid chwyldroadol yn y fan hyn, a byddai rhai I Lywodraeth arwain yn hyn o beth. Rhaid yw trwytho pob disgybl yn yr iaith a bod pob cyfle i ymarfer y Gymraeg o’r cychwyn Cyntaf.

 

Rhaid darparu mwy o ganolfannau trochi, er mwyn sicrhau rhuglder

 

Pa ystyriaethau ariannu a allai fod yn angenrheidiol yn y dyfodol i gefnogi datblygiad y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn llawn, o ystyried y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg?

 

-          Mwy o adnoddau, mwy o athrawon

-           

-          Mwy o ganolfannau iaith

 

Angen i’r cyfrifiad nawr fod yn gatalydd ar gyfer newid – yn ysgogiad i weithredu’n gadarnhaol ac i sylweddoli na allwn orffwys ar ein rhwyfau. 

 

Angen sicrhau bod dysgwyr yn gwbl ddwyieithog ac yn hyderus i gyfathrebu yn y ddwy iaith yn gyfartal yn y byd gwaith, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

 

Byddwn yn fodlon iawn darparu gwybodaeth bellach.